Preifatrwydd

Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn eich helpu i ddeall pa wybodaeth bersonol y bydd Prosiect
Sero Abertawe yn casglu oddiwrthoch at ddiben darparu gwybodaeth ar eich cyfer, sut y
byddwn yn cadw a defnyddio’r wybodaeth honno, a’r dewisiadau sydd gennych unwaith eich
bod wedi cyflwyno’r wybodaeth bersonol honno i ni.

Pw ydym ni

At ddibenion Rheoliad Diogelu Data Cyffredin 2016 a’r Ddeddf Diogelu Data 2018, bydd
Cyngor Abertawe yn gweithredu fel rheolwr data ar gyfer y wybodaeth bersonol a
gyflwynwyd gennych ar y wefan hon. Gallwch ddarllen polisi preifatrwydd llawn y Cyngor,
sy’n cynnwys manylion cyswllt yn https://www.abertawe.gov.uk/hysbysiadpreifatrwydd

Eich hawliau preifatrwydd

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei gadw’n ddiogel gan Ddinas a Sir Abertawe at y dibenion a
restrwyd uchod yn unig.

Ni fyddwn yn rhannu eich data gydag unrhyw drydydd partïon heb eich caniatâd penodol,
onibai ei fod yn ofynnol, neu fod gennym ganiatâd i wneud hynny gan y gyfraith, ac eithrio lle
‘rydych wedi cyflwyno ymholiad trwy dudalen rhestr fusnesau, fel y disgrifir uchod.
Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddarparu copi llawn o unrhyw wybodaeth bersonol
amdanoch, sydd yn rhaid i ni roi i chi o fewn un mis calendr o’ch cais, a gwneud hynny yn
rhad ac am ddim.

Os ‘rydych yn credu bod y wybodaeth bersonol sydd gennym yn anghywir, er enghraifft os
yw eich manylion cyswllt wedi newid, mae gennych chi’r hawl i ofyn am gywiro, ar unwaith,
unrhyw ddata anghywir sydd gennym amdanoch.

Lle ‘rydych chi’n credu ein bod yn cadw eich gwybodaeth bersonol y tu hwnt i’r cyfnod cadw,
mae gennych chi’r hawl i fynnu ei ddileu ar unwaith. Mae gennych hefyd yr hawl i fynnu ein
bod yn dileu yn llwyr, o fewn amserlen resymol, yr holl ddata personol sydd gennym
amdanoch chi.