Hygyrchedd gwefan Prosiect Sero Abertawe

Cyngor Abertawe sy’n rheoli’r wefan hon a dyma’r datganiad hygyrchedd ar gyfer y wefan. Mae datganiad hygyrchedd amgen ar gyfer prif wefan Cyngor Abertawe.

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am wefan Prosiect Sero Abertawe yn unig, ac mae ar gael yn www.swanseaprojectzero.co.uk

Defnyddio’r gwasanaeth hwn

Cyngor Abertawe sy’n cynnal y safle hwn. ‘Rydym am i gymaint o bobl â phosibl gael y cyfle i ddefnyddio’r gwasanaeth. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech chi fod yn gallu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniant a’r ffontiau
  • chwyddo mewn hyd at 300% heb fod y testun yn llithro oddiar y sgrin
  • llywio’r wefan gan ddefnyddio allweddell yn unig
  • llywio’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

‘Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y gwasanaeth mor hawdd â phosibl i’w ddeall.

Os oes gennych anabledd, mae gan AbilityNet gyngor ynghylch sut mae gwneud eich teclun yn haws i’w ddefnyddio.

Pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn

Efallai y bydd rhai pobl yn cael trafferth defnyddio rhannau o’r gwasanaeth hwn:

  • efallai y bydd teitlau delweddau a tagiau alt yn eisiau mewn ambell leoliad, ac ‘rydym wrthi’n gweithio ar ychwanegu’r rhain
  • mewn rhai amgylchiadau, mae gan wefan Abertawe Prosiect Sero ddolenni i ddogfennau PDF allanol lle nad oes dewis arall mwy hygyrch ac addas ar gael ar yr adnodd allanol

Beth i’w wneud os ‘rydych yn cael trafferth defnyddio’r wefan hon:

Os ‘rydych yn cael trafferth defnyddio’r wefan hon, cysylltwch â ni drwy:

Ebost: Jane.Richmond@swansea.gov.uk
Drwy’r post: SA1 4PE, Guildhall, Abertawe.
Ffôn: 01792 636000

Fel rhan o ddarparu’r gwasanaeth hwn, efallai y byddwch am i ni anfon atoch negeseuon neu wybodaeth. Byddwn yn gofyn i chi sut yr hoffech chi dderbyn rhain, ond cysylltwch â ni os hoffech eu derbyn mewn fformat gwahanol. Er enghraifft, mewn print bras, recordiad sain neu braille.

Adrodd ar broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn.

‘Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os y byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau na restrwyd ar y dudalen hon, neu o’r farn nad ydym yn cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: webmaster@swansea.gov.uk neu ffoniwch 01792 636910.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb ac Hawliau Dynion (EHRC) yw’r corff sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda’n hymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol ynghylch hygyrchedd y gwasanaeth hwn.

Mae Cyngor Abertawe wedi’i ymrwymo at wneud y gwasanaeth hwn mor hygyrch â phosib, yn unol â rheoliadau Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018.

Sut roeddwn wedi profi’r gwasanaeth hwn

Profwyd y gwasanaeth ddiwethaf ar Chwefror 28, 2025, a gwiriwyd ei fod yn cydymffurfio â WCAG 2.2 AA yn defnyddio Deque axe, Silktide a WAVE.

Cafodd y dudalen hon ei llunio ar Fawrth 8, 2025. Fe’i diweddarwyd ddiwethaf ar Fawrth 10, 2025.